The Communities First programme in Wales has been refocused to work within the top 10% most deprived wards in Wales. This means tha Penparcau and West Aberystwyth does not fit within that criteria and will not be going forward as a Communities First area after the end of September 2012. The Communities First Partnership Board for Penparcau and West Aberystwyth would like to take this opportunity to say thank you to all who have supported us over the years.
Penparcau Forum will need all the support it can muster and crucially, committed individuals to help run the organisation. If you are interested in being involved please come along to the Community Office in Penparcau to offer your support for this much needed resource.
Once again a big thank you to everyone and especially to all the volunteers who have assisted with Communities First in the past…….diolch!
Cylchlythyr Olaf Mae’r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yng Nghymru wedi’i hailwampio i weithio o fewn y 10% o wardiau mwyaf difreintiedig yng
Nghymru. Mae hynny’n golygu nad yw Penparcau a Gorllewin Aberystwyth yn cwrdd â’r meini prawf, ac ni fydd yn parhau fel ardal Cymunedau yn Gyntaf ar ôl diwedd Medi 2012. Hoffai Bwrdd Partneriaeth Cymunedau yn Gyntaf Penparcau a Gorllewin Aberystwyth ddiolch i bawb sydd wedi’n cefnogi dros y blynyddoedd.
O ganlyniad i hyn, ac fel ffordd o barhau gyda’r cymorth cymunedol a’r datblygiadau ym Mhenparcau, bydd swyddogion Cymunedau yn Gyntaf yn gweithio tuag at ailsefydlu ‘Fforwm Cymunedol Penparcau’ fel sefydliad gwirfoddol cymunedol cyfansoddiadol.
Lleolir y sefydliad yn y Swyddfa Gymunedol ger y Siop Sglodion ym Mhenparcau, a bydd angen gwirfoddolwyr i gadw’r adnodd cymunedol hwn ar agor ar y rhan fwyaf o ddiwrnodau’r wythnos.
Bydd angen yr holl gefnogaeth bosib, a bydd yn hanfodol cael unigolion ymroddgar i helpu i redeg y sefydliad. Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan, dewch i’r Swyddfa Gymunedol ym Mhenparcau i gynnig eich cefnogaeth i’r adnodd gwerthfawr hwn.
Unwaith eto, diolch o galon i bawb, ac yn arbennig i’r holl wirfoddolwyr sydd wedi helpu gyda Cymunedau yn Gyntaf yn y gorffennol …. diolch!



































































